Untitled Document
Home About Us Contact Us Training Services Oscailte
Untitled Document
  Language:    
   
RSS News-Feed
   
Projects
   
  South England
  Midlands
  North England
  Cymru/Wales
  Ireland
  Scotland
   
News
   
About Us
   
Testimonials
   
Our Staff
   
Links
   
Job Opportunities
   
Contact Us
   
   
   
 
  Projects

Our Projects

Welsh
Completed ProjectsRunning Projects [Running Projects]
 
Cymdeithas Tai Linc Cymru, Caerdydd
Description : Chwalu’r Rhwystrau
Bwriad y prosiect hwn yw chwalu’r rhwystrau, y rhai gwirioneddol a’r rhai tybiedig, rhwng y tenantiaid ifanc a hŷn. Ymysg y partneriaid yn y prosiect mae ysgolion, trigolion, colegau a llyfrgelloedd.
 
 
Blaenau Gwent
Files :  Blaneau Gwent Web.pdf  
Description : Nod y prosiect hwn yw grymuso tenantiaid sy’n byw mewn tai gwarchod yn y Sir a sicrhau bod arfer da’n cael ei roi ar waith, yn gyson, ym mhob un o’r tai gwarchod. Bydd hefyd yn meithrin cysylltiadau rhwng y tenantiaid gwarchod a’r Grŵp Compact Tenantiaid Swyddogol.
 
 
Cymdeithas Tenantiaid a Thrigolion – Rhondda Cynon Taf
Description : Mae’r prosiect hwn yn debyg i brosiect Linc Cymru (uchod) am ei fod yn ceisio cynyddu’r gweithgareddau i bobl ifanc yn y gymuned a phontio’r bylchau rhwng y bobl ifanc a’r bobl hŷn ar yr ystad. Mae’r ddwy gymuned hyn yn ddrwgdybus o’i gilydd i ryw raddau; caiff hyn ei seilio ar ddim byd mwy na stereoteipio a’r ffaith nad yw’r ddau grŵp yn cyfathrebu’n effeithiol â’i gilydd.
 
 
Thompson Street, Bro Morgannwg
Description : Prif nodau’r prosiect hwn yw sicrhau bod y ganolfan gymuned leol yn darparu gwasanaethau sy’n berthnasol i’r gymuned; o ganlyniad, bydd rhagor o ddefnyddwyr yn defnyddio’r cyfleuster. Bydd hefyd yn ceisio gwneud yn siŵr bod y gwahanol fentrau cymunedol y mae’r grŵp wedi’u sicrhau, yn cael eu cydlynu’n effeithiol.
 
 
Cynnwys Ieuenctid Llanelli
Description : Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal ar y cyd a Rhwydwaith Ymgynghorol Tenantiaid Llanelli. Ei fwriad yw sicrhau bod pobl ifanc Llanelli yn cael y cyfle i fod â rhan ystyrlon ym maes cynnal gwasanaethau tai a gwasanaethau eraill.
 
 
Bron Allt Crynant, Cymdeithas Tai Abertawe
Description : Nod y prosiect hwn yw ffurfio Sefydliad Tai Cydweithredol, â chyfansoddiad llawn, wedi’i seilio ar aelodaeth tenantiaid, er mwyn i’r trigolion gael rhyddid i weithredu ynghylch polisïau a gwasanaethau. Y bwriad yw sicrhau cynaladwyedd y datblygiad o 56 uned. Credir bod yr ardal yn “fan anodd i ddodi tai ar osod ynddi” yn sgil cau’r glofeydd lleol yn y 1980au, a arweiniodd at ostyngiad yn y galw am yr eiddo.
 
 
Ffederasiwn Tenantiaid Ceredigion
Description : Bwriad y prosiect hwn yw gwella’r cyfathrebu sy’n mynd rhagddo rhwng y Ffederasiwn a’i aelod - grwpiau. Dylai myfyrwyr lleol o ardal Prifysgol Caerdydd allu cael profiad gwaith gwerthfawr iawn trwy weithio law yn llaw â’r Ffederasiwn er mwyn llunio gwefan. Bydd ymweliad astudio â phrosiect tebyg yn rhoi gwybodaeth werthfawr i’r grŵp.
 
 
PCI Sir y Fflint
Description : Gweler Cynnwys Ieuenctid Llanelli uchod.
 
 
Y Mwnt, Sir Benfro
Description : Nod y prosiect hwn yw gweld yn union a oes modd i’r gymuned leol arfer eu Hawl i Reoli - sef hawl gyfreithiol sydd ganddynt o dan reoliadau Hawl i Reoli. Fe benderfynodd y grŵp tenantiaid a thrigolion ofyn i’r gymuned fynegi barn ar ôl i’r awdurdod lleol benderfynu ei fod am barhau i fod yn berchen ar y stoc tai, o ganlyniad i’r broses gwerthuso dewisiadau stoc.
 
 
Cyllid Uniongyrchol gan Tai Eryri
Description : Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n uniongyrchol gan Cymdeithas Tai Eryri. Mae’r landlord yn awyddus i sicrhau bod ei denantiaid yn cael yr holl wybodaeth – bob amser – ac yn cael y cyfle i lunio eu gwasanaeth tai. Mae’r prosiect yn ymdrin ag eiddo’r landlord ym Mangor ac Ynys Môn.
 
 
Yr Ymgynghorydd Annibynnol ar gyfer Tenantiaid Ceredigion
Description : Cafodd Open Communities ei ddewis gan denantiaid Ceredigion i fod yn Ymgynghorydd Annibynnol ar gyfer Tenantiaid – ym mhroses trosglwyddo stoc tai’r Cyngor i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig lleol sydd newydd gael ei sefydlu. Rydym yn cynnig cyngor diduedd ac annibynnol i denantiaid a les-ddeilaid Ceredigion hys nes bydd y bleidlais yn cael ei chynnal, yn ystod Hydref 2008.
 
 
Ôl-Drosglwyddo Stoc Conwy
Description : Cafodd Open Communities eu penodi ar ôl iddynt roi cymorth i denantiaid a les-ddeiliaid trwy gydol cyfnod prosesau gwerthuso’r dewisiadau a Throsglwyddo Stoc. Rydym yn gweithio law yn llaw â’r Fforwm Tenantiaid er mwyn llunio polisïau a gweithdrefnau’r landlord newydd, sef Cartrefi Conwy.
 
 
Cymdeithas Tai Bro Myrddin – Sir Gâr
Description : Bwriad y prosiect hwn yw cynyddu niferoedd y tenantiaid sy’n chwarae rhan weithredol mewn rheoli’r sefydliad trwy gyfleu’r neges i denantiaid, yn enwedig y rhai hynny sy’n byw yn ardaloedd mwy gwledig y sir.
 
 
Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru (gwarchod)
Description : Nod y prosiect hwn yw ymgynghori â thenantiaid ynglŷn â dulliau o wella gweithgareddau cymdeithasol/hamdden o fewn a rhwng dau gynllun tai gwarchod y Gymdeithas.
 
 
Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru (plant)
Description : Nod y prosiect hwn yw rhoi grym i gymuned fach leol fel bod modd iddynt fynd i’r afael â mater o bwys lleol ers amser maith – sef nad oes lle chwarae diogel a sicr ar gyfer y plant sy’n byw yn y datblygiad.
 
 
Tai Eryri (fflatiau)
Description : Nod y prosiect hwn yw ymgynghori â’r holl denantiaid hynny yn y 1,500 o eiddo sydd gan Dai Eryri sy’n byw mewn fflatiau er mwyn clywed eu barn ynglŷn â’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn gan Dai Eryri a darparwyr gwasanaethau eraill. Mae oddeutu 420 o eiddo yn ymwneud â’r prosiect.
 
 
Tai Eryri (ieuenctid)
Description : Mae 2 brif nod i’r prosiect hwn, sef;

• Gweithio gyda thenantiaid yn y 3 chyfleuster sydd gan y sefydliad ar gyfer pobl ifanc yn arbennig (rhwng 16 a 25 oed) er mwyn trafod y gwasanaethau y maent yn eu derbyn ar hyn o bryd.

• Ymgynghori â phlant tenantiaid Tai Eryri er mwyn clywed eu barn ynglŷn â byw yn un o gartrefi Tai Eryri.
 
 
    Untitled Document